Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Ebrill 2024
Amser:
09.20 -
14.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13878
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Yr Athro Rosie Campbell, Aelod o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Yr Athro Sarah Childs, Aelod o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Hannah Stevens, Prif Weithredwr, Elect Her Jemima Olchawski, Prif Weithredwr, Cymdeithas Fawcett Geraint Day, Dirprwy Brif Weithredwr, Plaid Cymru Tom James, Cyfarwyddwr, Ceidwadwyr Cymreig Joanna McIntyre, Ysgrifennydd Cyffredinol, Llafur Cymru Yr Athro Meryl Kenny, Prifysgol Caeredin Yr Athro Mona Lena Krook, Rutgers University Yr Athro Rainbow Murray, Brifysgol Queen Mary yn Llundain Dr Larissa Peixoto Vale Gomes, Prifysgol Caeredin
|
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.
Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
Datganodd David Rees AS fod aelodau o'r Pwyllgor yn aelodau o'r pleidiau gwleidyddol sy'n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5.
Datganodd Heledd Fychan AS fuddiant perthnasol ar wahân ei bod yn briod â Geraint Day, a fyddai'n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Cytunodd yr Athro Sarah Childs i ddarparu rhagor o wybodaeth am drais yn erbyn menywod ym myd gwleidyddiaeth a'r strategaethau y gall seneddwyr, darpar ymgeiswyr a sefydliadau eu defnyddio i fynd i'r afael â hynny.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elect Her a Chymdeithas Fawcett.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Banel Pleidiau Seneddol Cymru y Comisiwn Etholiadol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Meryl Kenny, yr Athro Mona Lena Krook a Dr Larissa Peixoto Vale Gomes.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.